
Mae gan Gylch Meithrin Cynwyd Sant awyrgylch addysg gryf a digon o adnoddau i gyrraedd gofynion yr holl blant, mae’r ystafell yn llawn dychymyg a chyffro a’n galluogi’r plant i ddatblygu eu sgiliau drwy chwarae. Mae ein ardal tu allan hefyd yn llawn dychymyg ag adnoddau gwych sy’n galluogi plant i ddatblygu eu dealltwriaeth a’u gwybodaeth o bethau byw a’u amgylchedd. Mae gennym ni rwtîn sy’n gweithio’n dda gyda’r plant a digon o weithgareddau sy’n helpu i ddatblygu iaith y plant drwy ofyn iddyn nhw ailadrodd geiriau drwy gân.
Mae’r Cylch yn cael ei arolygu yn gyson gan ESTYN, Care a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru gan ein bod yn rhan o Fudiad Meithrin.
Mae Cylch Meithrin Cynwyd Sant yn ceisio cynnig gofal o safon uchel drwy gyfrwng y Gymraeg i blant o oedran dwy a hanner i oedran meithrin.
Gweithgareddau:
Rydyn ni’n cynllunio ac yn cynnig gweithgareddau pwrpasol i'r plant ddatblygu pob agwedd ar eu datblygiad holistig – o ddatblygiad iaith a chymdeithasol, i ddatblygiad corfforol a datrys problemau.
Mae ein gwasanaeth yn cael ei gynnal gan staff sy’n ymrwymo i’r Cylch a gyda dros 25 mlynedd o brofiad. Rydyn ni’n ymfalchio yn ein gallu i fod yn esiamplau da i’r plant ag i’n gilydd.
Mae’r staff yn nabod y plant yn dda iawn a’n parchu eu diddordebau personol, eu dewisiadau a’u anghenion. Rydyn ni’n defnyddio strategaethau effeithiol tra’n cyfathrebu’n sensitif gyda phlant i’w annog i wneud eu gorau. Rydyn ni’n cynnig amryw o gyfleoedd gwahanol i blant i ddewis eu adnoddau eu hunain. Mae ein staff yn ateb gofynion plant yn llwyddiannus iawn drwy gynllunio tasgau a gweithgareddau sy’n cysidro eu diddordebau a’u datblygiad.






Oriau / Ffioedd:
(yn ystod y tymor yn unig)
Bore - 9yb-12yp
Diwrnod llawn - 9yb-3yp
Prynhawn - 1yp-3yp
Ffi: £5.50 yr awr
Mae ariannu ar gyfer gofal plant ar gael yn y tymor yn dilyn eu trydydd penblwydd drwy’r ‘Cynnig Gofal Plant Cymru’. Mae yna 20 awr am ddim ar gael ar gyfer y tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd. Gofynnwch i reolwr am fwy o fanylion.
Lleoliad
Cylch Meithrin Cynwyd Sant,
Pen Yr Ysgol,
Maesteg,
CF34 9YE
Rhif Ffôn: 07542143740
Mae ein adroddiad Estyn diweddaraf ar gael i ddarllen - cliciwch isod.
“Mae'r hyn rydych chi wedi'i wneud dros y 3 blynedd diwethaf i helpu a chefnogi fy mhlant yn anhygoel. Maen nhw wedi dysgu cymaint wrth fod gyda chi ac rwy'n falch iawn eu bod wedi gallu dysgu gennych chi.”
“Mae'n amlwg faint rydych chi wir yn caru, gofalu ac yn trysori'r plant!”
“Rydych chi'n anhygoel ac heb eich cefnogaeth, yn onest dwi ddim yn meddwl y byddai ein bechgyn mor ddisglair a hyderus wrth fynd i'r ysgol fawr.”
Cysylltwch â ni.
ebost: cynwydsant2013@gmail.com